Mae dau filwr o India wedi’u lladd ac mae un arall wedi’i anafu yn dilyn brwydr â lluoedd Pacistan yn rhanbarth Kashmir ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Yn ôl lluoedd arfog India, roedd yr ymosodiad yn ardal orllewinol Uri yn groes i amodau cadoediad 2003.

Bu farw’r ddau filwr yn yr ysbyty, ac fe wnaeth lluoedd India ymateb “yn gryf”, meddai llefarydd.

Dydy Pacistan ddim wedi gwneud sylw am yr ymosodiad yn y rhanbarthu fu’n destun brwydrau mawr ers degawdau.

Bu gwrthwynebiad i reolaeth India yno ers 1989, gyda bron i 70,000 o bobol wedi’u lladd mewn brwydrau ffyrnig yn y cyfnod hwnnw.