Mae mwy na thair miliwn o gartrefi a busnesau heb drydan ar hyd arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, wedi i storm eira anarferol o gynnar daro rhannau o’r wlad.

Mae 750,000 o gartrefi a busnesau yn Conneticut heb drydan, 6,500 arall heb drydan yn Massachusetts, 617,000  heb drydan yn New Jersey, a 200,000 o gartrefi a busnesau heb drydan yn Efrog Newydd.

Mae mwy na dau droedfedd o eira wedi disgyn mewn mannau, ac mae swyddogion wedi rhybuddio y gallai fod yn rai dyddiau cyn i’r cyflenwad trydan gael ei adfer.

Mae’r cyfuniad o eira  a gwyntoedd cryfion wedi difrodi nifer o geblau trydan, a’r gred yw bod o leia’ tri o bobol wedi marw oherwydd y tywydd gwael mor belled wrth i’r taleithiau gyhoeddi sefyllfa o argyfwng.

Mae’r eira wedi bod ar ei waethaf yn rhannau mwy gogleddol yr ardal, wrth i 27 modfedd ddisgyn mewn rhai mannau, ond mae dinasoedd mwy arfordirol fel Boston wedi elwa o’r tymheredd cymharol gynnes, sydd wedi cadw’r trwch yn isel.

Ond mae’r gaeaf anarferol o gynnar wedi cael croeso cynnes gan rai, wrth i ddau gyrchfannau sgio agor eu llethrau yn gynnar yn Vermont.

Annisgwyl

Ddoe roedd dau faes awyr sydd ag awyrennau yn teithio i New York City, Newark Liberty a Kennedy, yn ogystal â maes awyr Philadelphia yn wynebu oriau o oedi wrth i swyddogion geisio mynd i’r afael â’r eira.

Mae trigolion yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio wedi cael eu rhybuddio i osgoi teithio gymaint a phosib, wedi i un person gael ei ladd mewn damwain car yn Conneticut, oherwydd bod yr hewl yn llithrig.

Mae dyn 20 oed wedi cael ei ladd yn Springfield, Massachusetts wedi iddo gael sioc drydanol angheuol wedi iddo stopio ar ôl gweld dynion tân a heddlu yn archwilio ceblau trydan.

Yn ne-ddwyrain y wlad cafodd dyn 84 oed hefyd ei ladd ar ôl i goeden yn drwm dan eira ddisgyn ar ei gartref a’i ladd tra’r oedd yn cysgu.