Mae ymosodiadau ar-lein ar y Llywodraeth, y cyhoedd, ac ar ddiwydiannau wedi cyrraedd lefel pryderus iawn, yn ôl asiantaeth cudd-wybodaeth fwyaf Prydain.

Yn ôl Iain Lobham, o ganolfan glustfeinio’r Llywodraeth, GCHQ, mae “buddiannau economaidd y Deyrnas Unedig” o dan fygythiad.

Mewn erthygl yn y Times, mae’n dweud bod gwybodaeth sensitif ar gyfrifiaduron y Llywodraeth wedi cael eu targedu, ynghyd â systemau amddiffyn, technoleg, a chynlluniau cwmniau dylunio.

Yn yr erthygl, mae hefyd yn datgelu fod un ymosodiad “sylweddol (ond aflwyddiannus) ar y Swyddfa Dramor ac adrannau eraill yr haf hwn.”

Daw erthygl Iain Lobham yn y Times wrth i Lundain baratoi at gynnal cynhadledd ar ddiogelwch-seiber, sy’n gobeithio tynnu arweinwyr gwleidyddol ac arbenigwyr technolegol ynghyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wrth y papur newydd fod cynnydd mawr mewn achosion o’r fath, gyda cronfa ddata trethi a lles “dan fygythiad”.

“Bydd gwledydd sy’n methu sicrhau diogelwch seiber eu systemau bancio, neu eiddo deallusol eu cwmniau, yn wynebu anfantais difrifol,” meddai William Hague.

Mae Iain Lobham wedi galw am ymateb cynhwysfawr i’r broblem, sydd, yn ei farn ef, yn dystiolaeth o “ddatblygiad marchnad troseddol byd-eang – economi ddu lle mae doleri sieber yn cael eu masnachu am wybodaeth am gardiau credyd pobol o’r Deyrnas Unedig.”