Mae tribiwnlys annibynnol yn Awstralia wedi gorchymun cwmni awyrennau Quantas, sef cwmni cenedlaethol y wlad, i roi’r gorau i’r anghydfod achosodd i’w hawyrennau beidio hedfan ers dau ddiwrnod.
Penderfynodd y tribiwnlys y dylai’r anghdfod ddod i ben ar ôl gwrando ar dystiolaeth gan y cwmni awyr, yr undebau a’r llywodraeth mewn gwrandawiad brys yn Melbourne.
Mae Quantas a’r undebau yn anghydweld ynglyn â chynlluniau i newid amodau gwaith a thaliadau wedi i’r cwmni gyhoeddi bod peth o’r gwaith yn cael ei symud i Asia gan olygu colli 1,000 o swyddi yn Awstralia.
Mae penderfyniad Quantas i beidio hedfan o gwbl wedi cael effaith ar tua 70,000 o deithwyr ym mhedwar ban byd wrth i gannoedd o deithiau gael eu canslo ac roedd y llywodraeth yn hynod flin am benderfyniad y cwmni.
Croesawyd penderfyniad y tribiwnlys gan y llywodraeth heddiw. Dywedodd y Trysorydd Cynorthwyol Bill Shorten “Rydym yn falch bod hyn wedi dod i ben ac ar ôl 24 awr helbulus mae synnwyr cyffredin wedi cario’r dydd.”