Shane Williams
Bydd Shane Williams yn rhoi’r gorau i chwarae dros Gymru yn y gêm yn erbyn Awstralia ar 3 Rhagfyr.

Roedd yr asgellwr 34 oed, sydd wedi ennill 86 cap i Gymru, wedi cyhoeddi eisoes ei fod yn bwriadu ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd.

“Os y caf fy newis i chwarae fe fydd yn achlysur trist iawn i mi – a dweud y gwir fe fyddaf yn torri fy nghalon,” meddai gan ychwanegu na all feddwl am le gwell i orffen ei yrfa ryngwladol nag o flaen cefnogwyr Cymru, ei deulu a’i ffrindiau.

Bydd ei gêm olaf yn Stadiwm y Mileniwm yn gyfle i Gymru ddial ar Awstralia wnaeth eu curo yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd eleni.

Fe fydd Shane Williams yn parhau beth bynnag i chwarae i’r Gweilch gan fod ganddo gytundeb tan diwedd tymor 2012-2013