Mae nifer o wleidyddion ac arbenigwyr wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad yr Arlywydd Donald Trump i roi terfyn ar daliadau i Sefydliad Iechyd y Byd.

Yn ôl yr Arlywydd gallai’r achosion fod wedi cael eu cyfyngu’n well yn Wuhan ble dechreuodd y firws pe bai Sefydliad Iechyd y Byd wedi ymateb yn well i adroddiadau gwreiddiol o’r firws yn China.

Dywedodd yr Arlywydd fod gwledydd yn dibynnu ar Sefydliad Iechyd y Byd ac ei bod nhw wedi “methu â chyflawni ei dyletswydd sylfaenol”.

Ymateb Vaughan Gething

Ar ei gyfrif Twitter, mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething wedi disgrifio dewis yr Arlywydd Trump i roi terfyn ar daliadau i’r Sefydliad Iechyd y Byd fel un “rhyfeddol” ac “anghywir”.

Y Cenhedloedd Unedig

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, nad nawr yw’r amser i roi terfyn ar gymorth i Sefydliad Iechyd y Byd, gan fod y sefydliad “yn gwbl hanfodol” i’r ymdrech fyd-eang i frwydro yn erbyn Covid-19.

Dywedodd Mr Guterres ei bod yn bosibl darllen y ffeithiau’n wahanol ond mai’r amser priodol ar gyfer adolygiad yw “unwaith y byddwn wedi gweld diwedd ar y pandemig hwn”.

Bill a Melinda Gates

Cyllidwyr gwirfoddol mwyaf Sefydliad Iechyd y Byd yw Bill a Melinda Gates, sy’n darparu 9.76% o gyllid y sefydliad (i roi hynny mewn cyd-destun, tan y cyhoeddiad hwn, roedd yr Unol Daleithiau, fel gwladwriaeth, yn cyfrannu ychydig o dan 15% o gyllideb y sefydliad).

Yn dilyn cyhoeddiad yr Arlywydd, soniodd Bill Gates, sylfaenydd a phennaeth cwmni cyfrifiadurol Microsoft, am ei bryderon ar y cyfryngau cymdeithasol, “Mae atal cyllid ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd yn ystod argyfwng mor beryglus ag y mae’n swnio.

“Mae eu gwaith yn arafu lledaeniad Covid-19. Mae angen Sefydliad Iechyd y Byd yn fwy nag erioed.”

“Adlewyrchiad o fethiant yr Arlywydd”

Dywedodd Chris Murphy, Seneddwr Democrataidd ac aelod o Bwyllgor Cysylltiadau Tramor yr Unol Daleithiau wrth y Financial Times mai pasio’r bai ymlaen mae Donald Trump.

“Mae atal taliadau i Sefydliad Iechyd y Byd a chyhuddo China o fethu rhybuddio’r cyhoedd am y coronafeirws yn adlewyrchiad o fethiant yr Arlywydd i weithredu ei hun.

Cefndir Sefydliad Iechyd y Byd

Ers 1948 mae Sefydliad Iechyd y Byd sydd â’i bencadlys yn Genefa, y Swistir, wedi bod yn gyfrifol am iechyd cyhoeddus yn fyd-eang.

Mae 194 o wledydd yn aelodau o’r sefydliad.