Mae yna rywbeth Shakespearaidd yn ffawd Boris Johnson – y dyn oedd yn ddifrïol am beryglon feirws y goron yn troi’n ysglyfaeth iddo fo. A phlediwr ‘imiwnedd yr haid’ yn sylweddoli na allwch chi wastad benderfynu pa aelodau o’r haid sy’n diodde’.

Hanfod trychineb Shakespearaidd ydi fod ffigwr amlwg yn cael ei danseilio gan ei wendidau ei hun, ac weithiau gan ei falchder. Gwendidau a balchder sy’n ddwfn yn ei gynhysgaeth, ac sy’n ymddangos weithiau fel cryfder.

Dyma’r dyn oedd yn parhau i ysgwyd dwylo pan oedd arbenigwyr yn argymell peidio, yn mynd i gêm rygbi ryngwladol pan oedd llawer o bobol gyffredin wedi cadw draw, a’r dyn oedd yn dweud y byddai’r feirws wedi’i orchfygu’n llwyr mewn ychydig wythnosau.

Ac yntau bellach yn gwella, mi allwn baratoi am ragor o frygowthan Churchillaidd amdano’n wrhydri i gyd yn curo’r afiechyd ac yn ailafael yn yr awenau. Ond, siawns erbyn hynny, na fydd pobol wedi gweld trwy’r rhethreg.

Er fod hwn yn argyfwng heb ei debyg a’r penderfyniadau’n ddychrynllyd o anodd, mae’n amlwg bellach fod yna wendidau mawr yn ymateb y Llywodraeth a’r rheiny’n symptomau o wendidau dyfnach. Roedd y ffordd y cawson ni’r newyddion am Boris Johnson ei hun yn symbolaidd …

“Profion rwtîn,” medden nhw ar y dechrau. “Ymweliad oedd wedi’i drefnu.” Ac, yn ôl y sôn, roedd o mewn hwyliau da, a’i law yn dynn ar y llyw. Mewn adran gofal dwys.

Roedd hyn i gyd yn ffitio’n berffaith i’r hyn a ddigwyddodd yn wythnosau cynta’r feirws a Boris Johnson yn gaeth i’w arfer o gadw at ddweud pethau poblogaidd, boed y rheiny’n wir ai peidio. Roedd y Gwasanaeth Iechyd “yn barod” ac roedd “profion ar y ffordd”.

Erbyn hyn, mi wyddon ni fod y bygythiad o glefyd fel hwn yn hysbys ers tua 2009, bod rhybuddion wedi bod gan arbenigwyr a phwyllgorau, a bod ymarfer wedi bod rhyw bedair blynedd yn ôl. A’r gwersi wedi’u hanwybyddu.

Ar ben hynny, mi wyddon ni fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cynigion i gydweithio efo gwledydd yr Undeb Ewropeaidd i gael offer diogelwch (balchder Brexitaidd eto) a’u bod wedi anwybyddu rhybuddion cry’ fod angen profi a phrofi a phrofi.

Mae hyn i gyd yn codi o natur ddofn llywodraethau Ceidwadol y blynyddoedd diwetha’,  a heddiw – eu hobsesiwn efo cyni’n atal gwario ar ddiogelwch, eu hobsesiwn efo Brexit yn tynnu sylw oddi wrth bopeth arall, a’u tueddiadau poblyddol yn eu rhwystro rhag bod yn onest.

Hyd yn oed os oedd arbenigwyr yn cefnogi syniadau ‘imiwnedd yr haid’, mae’n amlwg nad oedd gweinidogion wedi gofyn y cwestiynau iawn. Hynny, fwy na thebyg, oherwydd eu bod yn cyd-daro â greddf arweinwyr y Llywodraeth. Mi fyddai ambell gwestiwn craff wedi dangos mai arbrawf peryglus oedd hyn, heb ddigon o wybodaeth.

Ac wedyn yr oedi dinistriol, fel pe bai Prydain Fawr (aka Lloegr) yn ddiogel rhag bygythiadau; nad oedd cyngor Sefydliad Iechyd y Byd am brofion yn berthnasol i wlad “fel ni”. “Allwch chi ddim ymladd clefyd fel hyn efo mwgwd dros eich llygaid,” meddai pennaeth y Sefydliad. Ond dyna oedd y dewis.

Hyd yn oed a derbyn bod hon yn sefyllfa ddychrynllyd o anodd, roedd esiampl gwledydd fel yr Eidal yn gwbl glir a phobol gyffredin yn galw am bolisïau cadarn ymhell cyn i’r Llywodraeth weithredu.

Roedd y rhan fwya’ o bobol yn gweld gwiriondeb cynnal digwyddiad fel Rasys Cheltenham a gêmau pêl-droed a rygbi rhwng clybiau o’r Eidal a Sbaen a gwledydd Prydain – y Dreigiau yng Nghymru, a Lerpwl yn Lloegr.

Dyna’r union adeg yr oedd Boris Johnson yn dal i ysgwyd llaw efo pobol. Ac, efallai, yn cael ei heintio.