Mae arweinwyr ledled y byd yn pryderu y gallai lleihau cyfyngiadau a mesurau ymbellhau cymdeithasol ddadwneud y gwaith da sydd wedi ei weld mewn gwledydd ar draws y byd.

Mae Sbaen wedi caniatáu i rai gweithwyr ddychwelyd i’w swyddi, ac mae rhanbarth yn yr Eidal a gafodd eu taro’n wael wedi dechrau llacio cyfyngiadau, ond mae arbenigwyr yn rhagdybio y gallai’r feirws ledaenu’n gyflym iawn o Efrog Newydd i rannau eraill o’r Unol Daleithiau.

Yn ôl Prifysgol John Hopkins, mae mwy na 1,800,000 o achosion o’r coronafeirws wedi eu cofnodi a  mwy na 114,000 o bobol wedi marw yn fyd-eang.

Ffrainc

Mae Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi ymestyn y cyfyngiadau cymdeithasol yno tan Mai 11.

Mae’r cyfyngiadau wedi bod yn eu lle ers Mawrth 17.

Dywed yr arlywydd ei fod yn gweld “arwyddion gobeithiol” a’i bod hi’n ymddangos bod lledaeniad y feirws yn sefydlogi.

Ond mae’n annog y Ffrancwyr i barchu cyfyngiadau cymdeithasol.

Er y bydd bwytai, caffis, gwestai, sinemâu, amgueddfeydd a neuaddau cyngerdd yn parhau i fod ar gau tan o leiaf ganol mis Gorffennaf, y gobaith yn ôl yr arlywydd yw bydd ysgolion yn ailagor “yn raddol” fis Mai.

14,967 o bobol sydd wedi marw yno erbyn hyn.

Sbaen

Yn ôl Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, mae’r feirws yn “bygwth dinistrio bywydau a gwead economaidd a chymdeithasol Sbaen”.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi caniatáu i weithwyr ddychwelyd i rai swyddi ffatri ac adeiladu.

Mae siopau a gwasanaethau’n dal ar gau, ac mae gweithwyr swyddfa’n cael eu hannog yn gryf i barhau i weithio o adref.

Bydd y cyfyngiadau llym yn parhau am o leiaf bythefnos arall.

Er hyn, mae rhai arbenigwyr iechyd a gwleidyddion yn dadlau ei bod yn rhy gynnar i leihau’r cyfyngiadau yn y wlad sydd wedi dioddef bron i 17,500 o farwolaethau ac wedi cofnodi mwy na 169,000 o achosion.

Yr Eidal

Mae’r Eidal wedi cofnodi’r nifer isaf o farwolaethau mewn tair wythnos, a’r cyfanswm erbyn hyn yw 19,800.

Yn Veneto, un o’r rhanbarthau mwyaf heintiedig yn y wlad, mae’r awdurdodau wedi dechrau llacio rhai cyfyngiadau.

Yno, bydd hawl gan bobol i wneud ymarfer corff o fewn 200 metr i’w cartrefi a bydd marchnadoedd awyr agored yn ailagor heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 14).

Mae hi’n orfodol i bobol wisgo masgiau neu orchuddion wyneb y tu allan i’r cartref.

Rwsia

Dywedodd Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ddydd Llun (Ebrill 13) fod y genedl yn wynebu cynnydd yn nifer y cleifion sy’n ddifrifol wael o ganlyniad i’r feirws.

Pwysleisia’r angen i baratoi ar gyfer symud gweithwyr meddygol ac offer meddygol o ranbarth i ranbarth er mwyn ymateb i’r sefyllfa sy’n prysur newid yn y wlad.

Mae Rwsia wedi cofnodi mwy na 18,000 o achosion o’r coronafeirws a 148 o farwolaethau.

Yr Almaen

Mae’r Canghellor Angela Merkel yn annog Almaenwyr i fod yn bwyllog wrth i’r wlad barhau i asesu’r posibilrwydd o lacio unrhyw gyfyngiadau yno.

Daw hyn ar ôl i Armin Laschet, Gweinidog Gogledd Rhein-Westfalen, alw am gynllun i ddychwelyd i normalrwydd.

Mae’r Almaen wedi cofnodi dros 130,000 o achosion o’r coronafeirws a 3,149 o farwolaethau.

UDA

Canolbwynt y pandemig bellach yw’r Unol Daleithiau, gyda 22,000 o farwolaethau – y nifer fwyaf yn y byd.

Mae 10,000 o rhain wedi ei cofnodi yn Efrog newydd,

Er hyn, mae cyfradd y cleifion newydd sydd yn mynd i ysbytai wedi dechrau arafu, ac mae’n debyg bod cyfyngiadau cymdeithasol yn gweithio yno.

Tsieina

Yn raddol, mae Tsieina wedi dechrau lleihau’r cyfyngiadau yn Wuhan, y ddinas lle’r oedd yr achos cyntaf o’r feirws fis Rhagfyr diwethaf.

Ond mae pryderon y gallai mewnfudo arwain at ail don o achosion o coronafeirws yn y wlad.

Mae nifer yr achosion newydd wedi dechrau cynyddu’n raddol a’r gred yw fod Rwsia yn peri pryder penodol i Lywodraeth Tsieina.

Erbyn hyn, mae dros 83,000 o achosion a thua 3,300 o farwolaethau’n gysylltiedig â’r feirws wedi eu cofnodi yn Tsieina.