Mae’r Arlywydd Donald Trump yn honni mai fe fydd yn cael y gair olaf wrth benderfynu pryd i lacio cyfyngiadau cymdeithasol y coronafeirws – er bod llywodraethwyr yn dweud mai eu penderfyniad nhw yw e.
Fe fu’r llywodraethwyr yn honni ers tro bod ganddyn nhw gyfrifoldeb am sicrhau diogelwch y cyhoedd, ac mai nhw fyddai’n penderfynu pryd i weithredu yn ôl yr arfer.
Ond mae Donald Trump yn mynnu fod ganddo fe rym “absoliwt” yn rhinwedd ei swydd.
“Mae’r llywodraethwyr yn gwybod hynny,” meddai.
Mae rheolau ymbellháu cymdeithasol y wlad yn dod i ben ar ddiwedd y mis, ond fe fu cryn anghydweld ynghylch eu hymestyn y tu hwnt i hynny.
Tra bod yr arlywydd wedi bod yn cynnig cyngor cenedlaethol i bobol aros adref, mae llywodraethwyr ac arweinwyr lleol wedi cyflwyno cyfyngiadau swyddogol, gan gynnwys cau ysgolion a busnesau sy’n cynnig gwasanaethau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol.
Dywed llywodraethwyr nad ydyn nhw’n fodlon llacio’r cyfyngiadau’n rhy gynnar a hyd nes y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
Llywodraethwyr yn cydweithio
Yn y cyfamser, mae nifer o llywodraethwyr yn dod ynghyd i gydweithio ar eu hymateb i’r feirws.
Yn eu plith mae llywodraethwyr Efrog Newydd, New Jersey, Connecticut, Pennsylvania, Delaware a Rhode Island.
Mae cytundeb tebyg yn ei le rhwng llywodraethwyr Califfornia, Oregon a Washington.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cael eu harwain gan wyddoniaeth.
Tra bod llywodraethwyr yn dweud y gallai gymryd cryn amser i bethau ddod yn ôl i drefn, mae Donald Trump yn mynnu cael y gair olaf, gan ddweud y bydd e’n cyhoeddi papur yn amlinellu ei ddadleuon.
Mae Donald Trump eisoes wedi addo cryfhau’r economi fel rhan o’i addewidion etholiadol, ac mae’n poeni am effaith economaidd y feirws ar y wlad.