Mae’r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd tân ger safle Chernobyl yn yr Wcráin.

Mae pryderon fod y tân yn lledu ac y gallai gyrraedd y safle lle mae lefelau uchel o ymbelydredd.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i ddyn 27 oed sydd wedi’i amau o gynnau’r tân gwair yn fwriadol.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cynnau’r tân “am hwyl a sbri” a’i fod e wedi methu â diffodd y fflamau cyn i’r gwynt helpu’r tân i ledu.

Mae diffoddwyr wedi llwyddo i reoli tân arall gerllaw safle’r trychineb ddigwyddodd yn 1986.

Er y pryderon o amgylch y safle, dydy’r awdurdodau ddim yn credu bod perygl y gallai pobol y tu allan i’r ardal gael eu heffeithio gan ymbelydredd.