Mae pennaeth prif sefydliad gwyddonol yr Undeb Ewropeaidd wedi ymddiswyddo oherwydd rhwystredigaeth ynghylch yr argyfwng coronafeirws.
Dim ond ers dechrau’r flwyddyn roedd Mauro Ferrari wedi bod yn Llywydd ar y Pwyllgor Ymchwil Ewropeaidd, ond cadarnhaodd llefarydd dros Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd, Johannes Bahrke fod “Yr Athro Ferrari wedi ymddiswyddo.”
Bydd ymddiswyddiad Mauro Ferrari yn rhoi pwysau ar sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael eu cyhuddo o beidio gweithio gyda’i gilydd i frwydro’r feirws.
Siom a cholli ffydd
Mewn datganiad, dywed Mauro Ferrari “Rwyf cael fy siomi’n arw gan yr ymateb Ewropeaidd” i’r pandemig.
Cwynodd ei fod wedi gorfod delio gyda rhwystrau gwleidyddol a sefydliadol wrth iddo geisio sefydlu rhaglen wyddonol i ymateb i’r feirws ar frys.
“Rwyf wedi gweld hen ddigon o lywodraethu ar wyddoniaeth, a gweithredau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Dw i wedi colli fydd yn y system.”
Amddiffynnodd y Comisiwn Ewropeaidd ei record ar frwydro’r feirws ddydd Mercher (Ebrill 7) gan ddweud bod 18 o brosiectau ymchwil a datblygu eisoes yn gweithio i ddelio â’r feirws.
Dywed bod 50 o brosiectau gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn cyfrannu tuag at yr ymateb yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae gan yr Undeb Ewropeaidd y pecyn mwyaf cynhwysfawr o fesurau i frwydro’r feirws ac rydym yn datblygu gwahanol offerynnau i sicrhau ein bod yn datrys yr argyfwng hwn,” meddai Comisiwn Gweithredol yr Undeb Ewropeaidd.