Mae Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru Covid-19 yn llawn ar ôl derbyn mwy na 1,500 o geisiadau mewn ychydig dros wythnos.
Cafodd y cynllun gwerth £100 miliwn ei lansio gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Llun (Mawrth 30) fel rhan o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sydd werth cyfanswm o £500 miliwn.
Roedd y gronfa wedi cael ei sefydlu er mwyn cefnogi busnesau i ymdopi gydag effaith y pandemig coronafeirws.
Cafodd y benthyciadau cyntaf eu cymeradwyo o few tridiau, gyda’r symiau’n cyrraedd ymgeiswyr erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Banc Datblygu Cymru, sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun, yn sicrhau bod y cyllid sydd wedi’i gymeradwyo’n cyrraedd busnesau cyn gynted â phosib.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn galw ar Ganghellor Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak i “ymateb a dysgu” oddi wrth y cynllun a darparu cyllid ychwanegol i gefnogi busnesau ledled Cymru.
“Byddaf yn ysgrifennu at y Canghellor yn galw arno i ymateb a dysgu oddi wrth lwyddiant y cynllun a rhyddhau mwy o gyllid fel ein bod yn gallu lansio ail gam cefnogaeth Banc Datblygu Cymru,” meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
“Mae hefyd yn gwbl hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi mwy o bwysau ar ddarparwyr y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes i gael arian allan drwy’r drws ac i bocedi busnesau.”
Cronfa argyfwng gwerth £400 miliwn
Dywed Ken Skates fod Llywodraeth Cymru’n paratoi “manylion pellach” ar gronfa gwerth £400 miliwn.
“Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn cyhoeddi manylion pellach yn fuan am y gronfa argyfwng gwerth £400m o’r Gronfa Cadernid Economaidd gyda’r nod o fod ar agor i geisiadau’r wythnos nesaf,” meddai.
“Hoffwn i ddiolch i Fanc Datblygu Cymru. Mae’r tîm cyfan yn gwneud popeth o fewn eu gallu, cyn gynted â phosib, i brosesu’r nifer digynsail o geisiadau am gyllid.
“Er bod y cynllun benthyciadau hwn wedi’i ddefnyddio’n llawn, mae’r Banc Datblygu yn parhau i gynnig cyfleoedd cyllido amrywiol i’r gymuned fusnes.”