Ers i argyfwng Cofid -19 ddechrau mae yna ddiffyg rhyngwladol wedi bod mewn cyflenwadau offer diogelwch, gan gynnwys ‘saniteiddiwr’ dwylo.
Gydag alcohol cryf iawn yn un o’r prif gynhwysion, roedd distyllwyr mewn sefyllfa dda i helpu i ateb y galw dros y tymor byr.
Dyma’n union y mae Distyllfa Dyfi yng Nghorris ger Machynlleth wedi ei wneud.
Yn ôl y ddistyllfa, fe drafodon nhw yn fanwl gyda chyrff llywodraethol cyn cynhyrchu dau lwyth yn arbennig i’w rhoi yn rhad ac am ddim i wasanaethau rheng flaen lleol.
Ymhlith y rhai a dderbyniodd y cynnyrch, roedd:
- cartrefi gofal
- meddygon teulu
- gwasanaeth heddlu ac ambiwlans
- ysbytai Machynlleth a Dolgellau
- swyddfa ddosbarthu’r Post Brenhinol
Yn gyfan gwbl, dosbarthwyd hylif glanweithiol Distyllwyr Dyfi i 31 o sefydliadau lleol gwahanol.
Rhoi nid gwerthu
“Gyda gwerthiant wedi ei effeithio mor ofnadwy gan yr argyfwng” meddai Pete Cameron, un o sefydlwyr y ddistyllfa, “awgrymwyd y dylen ni werthu hylif glanweithiol.
“Ond fe benderfynon ni roi yr holl gyflenwad rydyn ni wedi ei gynhyrchu am ddim, felly roedd yn gallu cyrraedd y rhai oedd ei angen fwyaf yn gyflym.”
Mae Distyllfa Dyfi yn adnabyddus fel arfer am gynhyrchu jin, ac maen nhw wedi ennill teitl Jin Gorau Prydain ddwy waith.