Mae NFU Cymru wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i ddarparu cyllid pellach i ffermwyr er mwyn eu galluogi nhw i barhau i fwydo’r genedl yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Er mwyn sicrhau fod ffermwyr yn medru parhau i chwarae eu rôl hanfodol o gynhyrchu bwyd drwy gydol yr argyfwng yma, mae NFU yn bendant fod yn rhaid i’r ffermwyr dderbyn cefnogaeth bellach gan y Llywodraeth. Mae’n nhw’n galw am:
- Ddynodi 15% o’r £45m a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr i fusnesau ffermio fel ychwanegiad i’r Taliadau Sylfaenol yn nes ymlaen eleni
- Angen i fusnesau ffermydd sydd wedi eu heffeithio gan y tarfiadau i’r farchnad oherwydd covid-19 fedru cael mynediad i’r Gronfa Economaidd a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru.
“Bregus”
Yn ei lythyr, dywedodd Prif Lywydd NFU Cymru John Davies:
“Does dim amheuaeth fod yr wythnosau diwethaf wedi pwysleisio pwysigrwydd rôl cynhyrchwyr bwyd ym mywydau bob dydd pob un ohonom ni. Mae’r cymhlethdodau a pha mor fregus yw ein cadwyn fwyd hefyd wedi dod i’r amlwg.
“Mae NFU Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau fod ein prif gynhyrchwyr yn medru parhau i gynhyrchu bwyd a bod silffoedd archfarchnadoedd yn cael eu cyflenwi.
“Ond, gyda’r tarfiadau difrifol i’r gadwyn gyflenwi ar ôl gaeaf anodd dros ben, rydym nawr yn dechrau gweld yr effaith ar sefyllfa ariannol sawl sector o fewn y diwydiant ffermio, gyda gwydnwch sawl fferm yn cael ei herio.
“Mae busnesau arallgyfeirio wedi eu heffeithio’n fawr gan Covid-19 hefyd.