Mae Facebook wedi ymddiheuro am nam yn ei system wrth-sbam a oedd yn rhwystro defnyddwyr rhag cyhoeddi diweddariadau am y coronafeirws.

Dywed Guy Rosen ar ran y cwmni fod y wefan gymdeithasol bellach wedi datrys y broblem.

“Rydym wedi adfer yr holl gofnodion a gafodd eu dileu yn anghywir, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â COVID-19,” meddai.

“Problem gyda ein system gwrth-sbam oedd ar fai am hyn, system sydd yn cael ei ddefnyddio i reoli camddefnydd ar Facebook.”

Dywed Facebook nad oedd y broblem yn gysylltiedig â gweithwyr sy’n adolygu cynnwys y wefan gymdeithasol yn cael eu hanfon adref oherwydd pryderon am y coronafeirws.

Bonws i gefnogi gweithwyr Facebook

Er bod rhai gweithwyr Facebook eisoes wedi eu hanfon adref, fe gadarnhaodd Mark Zuckerberg, prif weithredwr Facebook, y byddai gweithwyr y cwmni yn derbyn bonws o $1,000 (£ 825) yn ystod y pandemig.

Mae’r wefan gymdeithasol yn cyflogi bron i 45,000 o staff amser llawn ledled y byd.