Mae’r arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi gwaharddiad ar bob teithio rhwng Ewrop – ac eithrio Prydain ac Iwerddon – a’r Unol Daleithiau am 30 diwrnod o yfory ymlaen.

Wrth gyhoeddi’r mesur i geisio rhwystro’r coronafeirws neithiwr, roedd Donald Trump yn beirniadu’r Undeb Ewropeaidd am beidio â gweithredu’n ddigon cyflym. Dywedodd fod y clystyrau o’r haint yn America wedi cael eu ‘hau’ gan deithwyr o Ewrop.

Mae ei gyhoeddiad yn arwydd o dro pedol ganddo ar ôl dyddiau o geisio tawelu ofnau am y coronafeirws. Mae bellach dros 1,000 o achosion wedi cael eu cadarnhau yn yr Unol Daleithiau bellach.

Nid yw’n glir pam iddo eithrio Prydain ac Iwerddon o’r gwaharddiad.