Mae Gogledd Corea wedi tanio tri thaflegryn oddi ar arfordir dwyreiniol y wlad, yn ôl lluoedd arfog De Corea.
Dywed Penaethiaid Staff Seoul bod tri thaflegryn wedi eu tanio o dref yn nhalaith ddeheuol Hamgyong, a’u bod wedi teithio hyd at 125 milltir.
Dyma’r ail waith i Pyongyang arbrofi gydag arfau yn y 10 diwrnod diwethaf ac mae’n dilyn pedwar mis o ddistawrwydd.
Cafodd yr arbrofion blaenorol eu condemnio gan y pum aelod Ewropeaidd o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Ymatebodd Gogledd Corea drwy ddweud mai “ymddygiad anystyriol y gwledydd yma, wedi eu harwain gan yr Unol Daleithiau, fydd yn sbarduno gweithred dyngedfennol.”
Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud y bydd sancsiynau ar Ogledd Corea yn parhau nes eu bod yn cymryd camau arwyddocaol oddi wrth arfau niwclear.
Mae trafodaethau niwclear rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daliaethau wedi oedi ers i’r ail uwchgynhadledd rhwng yr Arlywydd Donald Trump a Kim Jong-Un yn Hanoi, Vietnam yn 2019, ddod i ben heb unrhyw fath o gytundeb.