Mae’r Pab Ffransis wedi cyflwyno’i fendith ar ffurf fideo heddiw (dydd Sul, Mawrth 8), mewn ymgais i atal pobol rhag ymgynnull ger y Fatican.

Mae’n un o nifer o gamau sydd wedi’u cymryd er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledu yn yr Eidal.

Cafodd ei neges ei chyflwyno o lyfrgell y Fatican a’i thaflunio ar sgrîn fawr yn Sgwâr San Pedr, ond fe wnaeth y Pab ymddangos yn y ffenest am ychydig eiliadau er mwyn chwifio.

Mae hyd at 40,000 o bobol fel arfer yn ymgynnull i’w glywed yn pregethu.