Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i Boris Johnson a’i bartner Carrie Symonds dderbyn rhodd honedig o wyliau gwerth £15,000 yn y Caribî.

Fe wnaethon nhw dderbyn y rhodd yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.

Mae dryswch bellach, ar ôl i brif weinidog Prydain nodi yn ei dreuliau iddo dderbyn “llety ar gyfer gwyliau preifat i fi a’m partner, gwerth £15,000” gan y dyn busnes David Ross.

Ond mae David Ross, cyd-sylfaenydd Carphone Warehouse, yn gwadu iddo dalu am y gwyliau.

Yn ôl yr Observer, penderfynodd Kathryn Stone, y Comisiynydd Safonau Seneddol, ddydd Mercher (Mawrth 4) y dylid cynnal ymchwiliad ac mae hi wedi gofyn am wybodaeth gan Boris Johnson a David Ross.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Blaid Lafur alw am ymchwiliad.