Mae un o drenau TGV cyflym Ffrainc wedi dod oddi ar y cledrau ar ei thaith i Paris y bore yma.
Mae 21 o bobl wedi cael eu hanafu, gan gynnwys y gyrrwr a gafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty.
Dyma’r tro cyntaf i drên TGV ddod oddi ar y cledrau ers iddyn nhw gychwyn cael eu defnyddio bron 40 mlynedd yn ôl.
Roedd y trên, a oedd yn cludo 300 o deithwyr, ar ei ffordd o Colmar yn nwyrain Ffrainc i’r brifddinas ac yn mynd ar gyflymdra o 170 milltir yr awr pan ddaeth oddi ar y cledrau.
Roedd y gyrrwr wedi llwyddo i stopio’r trên â’r brêc argyfwng, ac er i’r trên gael ei difrodi, ni wnaeth droi drosodd yn y ddamwain.