Mae Joe Biden wedi trechu Bernie Sanders mewn etholiad yn nhalaith De Carolina yn y ras i gael ei ddewis yn ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid.

Cafodd y dyn 77 oed gryn gefnogaeth gan Americaniaid Affricanaidd yn y bleidlais gyntaf i’w chynnal yn nhaleithiau’r de.

Mae Bernie Sanders eisoes wedi ennill pleidleisiau sydd wedi’u cynnal yn Nevada a New Hampshire, gyda thrwch blewyn rhyngddyn nhw yn Iowa.

Ddydd Mawrth (Mawrth 3), fe fydd pobol mewn 14 o daleithiau’n bwrw eu pleidlais.

Mae rhai o fewn y Democratiaid, serch hynny, yn amau gallu Bernie Sanders i gadw rheolaeth o Dŷ’r Cynrychiolwyr pe bai’n cael ei ddewis yn ymgeisydd arlywyddol y blaid.

Cafodd ei feirniadu yn ystod y dadleuon teledu diweddaraf, ac mae Joe Biden yn dadlau mai fe yn unig sydd â’r profiad i arwain.

Ar ôl cyfaddef nad oedd e’n disgwyl ennill yn nhalaith De Carolina, treuliodd Bernie Sanders ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 29) yn Boston.