Mae gwrthblaid asgell dde Slofacia wedi cipio grym oddi ar y llywodraeth yn etholiad cyffredinol y wlad.

Fe ddaw â chyfnod y llywodraeth asgell chwith ddadleuol i ben yn dilyn sawl sgandal.

Mae lle i gredu bod plaid y Bobol Gyffredin wedi ennill 25% o’r bleidlais, a 53 sedd allan o 150, wrth i’r wlad symud ymhellach tua’r dde.

Y blaid sosialaidd Smer, y blaid lywodraeth ers 14 o flynyddoedd, oedd yn ail gyda 18.3% o’r bleidlais, a 38 sedd.

Mae’r blaid wedi colli poblogrwydd ers 2018, pan gafodd newyddiadurwr a’i ddyweddi eu llofruddio.

Ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth iddyn nhw yn dilyn yr etholiad, ar ôl i ddwy blaid a allai fod wedi ffurfio clymblaid gyda nhw fethu ag ennill yr un sedd.

Igor Matovic, cadeirydd plaid y Bobol Gyffredin yw’r unigolyn mwyaf tebygol o geisio ffurfio llywodraeth ac o ddod yn brif weinidog.

Fe allai arwain llywodraeth sy’n gyfuniad o’r Blaid Ryddid a Chadernid a’r Blaid Er y Bobol.