Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a fan yn Sir Gaerfyrddin.
Fe ddigwyddodd ar ffordd B4336 rhwng Llanllwni a Llanfihangel-ar-Arth am 12.16 ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 29), pan darodd Volkswagen Polo yn erbyn fan Ford Transit.
Cafodd gyrrwr y car anafiadau difrifol.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.