Mae neges Dewi Sant am wneud y pethau bychain “yr un mor bwysig heddiw”, yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

Daw ei neges ar Ddydd Gŵyl Dewi, wrth i Gymry o Fôn i Fynwy a thu hwnt ddathlu diwrnod cenedlaethol ein nawddsant.

Yn ei neges, dywed fod Cymru’n “genedl falch”, yn “genedl hyderus” ac mai’r “gweithredoedd bychain o garedigrwydd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr”.

‘Dydd Gŵyl Dewi Hapus!’

“Heddiw rydyn ni’n dathlu popeth sy’n wych am Gymru,” meddai, wrth agor ei neges.

“Rydym yn genedl falch. Rydym ni’n genedl hyderus.

“Rydym yn arwain y ffordd mewn technolegau digidol a seiber-ddiogelwch, y celfyddydau creadigol, ac yn y ras tuag at ddyfodol di-wastraff.

“Ac rydym yn groesawgar. Mae gennym hanes balch o groesawu pobol o bedwar ban byd i fyw, astudio a gweithio yma.

“Cannoedd o flynyddoedd yn ôl, siaradodd Dewi Sant am dosturi a chariad.

“Heddiw, rwyf yn gweld hyn bob dydd yn y bobol dwi’n cwrdd â nhw ledled Cymru.

“Yn ystod y pythefnos diwethaf, rwyf wedi cwrdd â phobol ledled Cymru sydd wedi eu heffeithio gan y stormydd a’r llifogydd diweddar.

“Rwyf wedi fy nharo gan garedigrwydd y cymunedau yma.

“Er straeon y dinistr, mae straeon am arwyr. Dyma galon Cymru.

“Dywedodd Dewi Sant gwnewch y pethau bychan – Mae’r neges hon yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd ganrifoedd yn ôl.

“Mewn byd a all deimlo’n ansicr weithiau – y gweithredoedd bach o garedigrwydd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

‘Lledaenu caredigrwydd’

“Dewch i wneud hyn yn galon i’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi,” meddai wedyn.

“Dewch i ni wneud y pethau bach a lledaenu caredigrwydd.

“Lle bynnag rydych chi’n dathlu heddiw, hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a’ch teuluoedd.”