Mae heddlu yn yr Iseldiroedd yn amau mai dau fom llythyr oedd yn gyfrifol am ffrwydradau yn yr Iseldiroedd.
Digwyddodd un o’r ffrwydradau mewn busnes yn Amsterdam a’r llall mewn swyddfa bost yn ninas ddeheuol Kerkrade, yn ôl yr heddlu.
Ni chafodd neb eu hanafu yn y ffrwydradau.
Fis diwethaf, cafodd bomiau llythyr eu hanfon i sawl busnes yn yr Iseldiroedd, ynghyd â llythyr rhybudd.
Wnaeth yr heddlu ddim datgelu unrhyw fanylion am y llythyrau rhybudd, na chwaith am gymhelliad posib.
Dyw hi ddim yn glir os yw’r ddau ffrwydrad yn gysylltiedig â’r bomiau llythyr gafodd eu hanfon fis Ionawr.