Mae dros 1,100 o bobl wedi marw o coronavirus yn Tsieina erbyn hyn, er bod graddfa’r marwolaethau yn arafu yn ôl awdurdodau iechyd yn y wlad.

Dywed y Comisiwn Iechyd Gwladol bod 2,015 achos newydd wedi cael eu hadrodd yn ystod y 24 awr ddiwethaf.

Mae’n debyg bod yno 45,000 o achosion yn rhyngwladol.

Yn Siapan, mae’r weinyddiaeth iechyd wedi dweud bod 3,711 o bobl wedi gorfod cael eu cadw ar gwch ar ôl i 39 person profi’n bositif am y firws.

Y gred nawr yw bod yno 169 o achosion wedi eu cadarnhau ar y Diamond Princess, sydd ym mhorthladd Yokohama, ger Tokyo.

Mae’r coronavirus wedi lledaenu i ddau ddwsin o wledydd eraill ers cael ei ddarganfod llynedd yn ninas Wuhan, Tsieina.

Mae yno o leiaf 60 miliwn o bobl yn y wlad mewn lockdown sydd wedi ei orfodi gan y llywodraeth er mwyn ceisio rhwystro’r firws rhag lledaenu.