Bernie Sanders a enillodd etholiad y Democratiaid yn New Hampshire neithiwr yn y ras i fod yr ymgeisydd i herio Donald Trump am yr arlywyddiaeth ym mis Tachwedd.

Dim ond o drwch blewyn fodd bynnag y llwyddodd y seneddwr 78 oed o Vermont gerllaw i drechu Pete Buttigieg, sy’n llai na hanner ei oed.

Mae Bernie Sanders yn disgrifio’i hun fel sosialydd democrataidd tra bod Pete Buttigieg yn nes i’r canol yn wleidyddol.

Ar ôl anhrefn llwyr yn y broses ddewis yn Iowa yr wythnos ddiwethaf, buddugoliaeth Bernie Sanders yw’r canlyniad clir cyntaf yn y ras.

“Rydyn ni’n mynd i ennill oherwydd mae gennym yr agenda sy’n siarad wrth anghenion pobl gyffredin ledled y wlad,” meddai Bernie Sanders. “Y fuddugoliaeth yma yw dechrau’r diwedd i Donald Trump.”

Fe ddaeth y seneddwr Amy Klobuchar yn drydydd, ond siomedig oedd perfformiad dau ymgeisydd blaenllaw arall – Elizabeth Warren a ddaeth yn bedwerydd, a Joe Biden a ddaeth yn bumed.