Mae disgwyl i eira a glaw achosi problemau traffig heddiw (dydd Mercher, Chwefror 12) cyn i Brydain gael ei hyrddio gan law a gwynt o Storm Dennis dros y penwythnos.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig dros y penwythnos.

Gallai hyd at 10cm o eira ddisgyn mewn uchelfannau yn yr Alban.

O ran y trenau yng Nghymru, mae gwasanaeth Dyffryn Conwy wedi’i ganslo, gyda gwasanaeth bws rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn ei le, a bydd gwasanaeth bws o’r Amwythig i Aberystwyth, ac o Fachynlleth i Bwllheli.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai gwyntoedd hyd at 60 milltir yr awr ddod ynghyd â Storm Dennis.

Ac mae yno 43 rhybudd llifogydd mewn grym yn Lloegr, chwech yn yr Alban, ag un yng Nghymru.

Dywed pennaeth metereolegol y Swyddfa Dywydd, Steve Ramsdale: “Rydym yn disgwyl cyfnod arall o dywydd gwlyb a gwyntog o ddydd Sadwrn ymlaen.

“Er na fydd Storm Dennis mor eithafol â Ciara, mae’n debygol o achosi aflonyddwch.”