Ffilm o Dde Corea, Parasite yw’r ffilm gyntaf mewn iaith heblaw Saesneg i ennill gwobr y ffilm orau yn yr Oscars.
Enillodd y ffilm ddychan gan Bong Joon-ho wobrau’r cyfarwyddwr gorau, sgript ffilm wreiddiol orau, a ffilm ryngwladol orau hefyd.
Roedd sawl un wedi darogan y byddai’r cyfarwyddwr o Brydain, Syr Sam Mendes yn ennill ei ail Oscar am gyfarwyddo’r ffilm Rhyfel Byd Cyntaf, 1917.
Roedd Bong Joon-ho i weld mewn sioc ei fod wedi ennill y wobr cyfarwyddo, gan ddweud: “Roeddwn i’n barod i ymlacio ar ôl i mi ennill y wobr am ffilm ryngwladol orau, doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i’n ennill dim byd arall.
“Mi fydda i’n yfed tan y bore!”
Mi brofodd 1917 lwyddiant yn y categori sinematograffi, lle enillodd Roger Deakins ei ail Oscar mewn tair blynedd, a dwy wobr arall am sain ac effeithiau gweledol.
Yn y categorïau actio, fe enillodd Joaquin Phoenix y brif wobr am yr actor gorau am ei ran yn y ffilm Joker, a Renee Zellweger y wobr am yr actores orau am y ffilm Judy. Laura Dern oedd wedi cipio’r wobr am yr actores gynorthwyol orau gyda Brad Pitt yn ennill yr actor cynorthwyol gorau.
Ac enillodd Syr Elton John wobr am y gan wreiddiol orau.