Fe fydd Jonathan Pryce yn ymuno â chriw dethol o actorion o Gymru pe bai’n llwyddo i ennill gwobr yr Actor Gorau yng ngwobrau’r Oscars heno (nos Sul, Chwefror 9).

Mae’r actor sy’n enedigol o bentref Carmel yn Sir y Fflint wedi’i enwebu am chwarae cymeriad y Pab Ffransis yn y ffilm Two Popes.

Mae’n serennu ochr yn ochr â Syr Anthony Hopkins, sydd wedi’i enwebu am yr Actor Cynorthwyol Gorau am bortreadu’r Pab Ffransis yn y ffilm.

Enillodd yr actor o bentref Margam ger Port Talbot y brif wobr am chwarae’r cymeriad Hannibal Lecter yn The Silence of the Lambs yn 1992.

Pe bai’n cipio’r wobr, bydd e’n ymuno â chriw dethol o enillwyr dwy wobr Oscar.

Enillwyr eraill o Gymru

Yn 1946, creodd Ray Milland o Gastell-nedd hanes drwy fod y Cymro cyntaf erioed i ennill Oscar, a hynny am bortreadu awdur alcoholig yn The Lost Weekend. Dyma’r tro cyntaf erioed i Gymro gael ei enwebu.

Hugh Griffith o Fôn ddaeth i frig y categori Actor Cynorthwyol Orau yn 1960 am chwarae’r cymeriad Sheik Ilderim yn y ffilm epig Ben-Hur.

Yn 2003, enillodd Catherine Zeta-Jones o Abertawe yr Oscar ar gyfer yr Actores Gynorthwyol Orau am chwarae’r cymeriad Velma Kelly.

Enillodd Christian Bale wobr Oscar am yr Actor Cynorthwyol Gorau yn y ffilm The Fighter yn 2011. Cafodd ei eni yn Hwlffordd, ond mae e wedi dweud yn y gorffennol nad yw’n “Taffy go iawn”.

Er mawr syndod, cafodd Richard Burton o Bontrhydyfen yng Nghwm Afan saith enwebiad yn ystod ei yrfa heb ennill unwaith.

Y tu hwnt i’r sgrîn, mae nifer o Gymry eraill wedi ennill gwobr Oscar, gan gynnwys y dylunydd gwisgoedd Lindy Hemming (Topsy Turvy, 2000) a’r cyfarwyddwr Jack Howells (Dylan Thomas, ffilm ddogfen fer wedi’i lleisio gan Richard Burton, 1963).

Un fydd ddim ymhlith yr enwebeion eleni yw Taron Egerton – a gafodd ei fagu yng Nghymru – ar ôl serennu fel y prif gymeriad yn y ffilm Rocketman sy’n adrodd hanes bywyd Elton John.