Mae nifer o enwau mwya’r byd criced wedi bod yn chwarae yn erbyn ei gilydd i godi arian yn dilyn tanau mawr Awstralia.

Cafodd y gêm rhwng tîm Ricky Ponting a thîm Adam Gilchrist ei chynnal ym Melbourne dros y penwythnos.

Ymhlith y sêr a ddaeth o bedwar ban i gefnogi’r digwyddiad roedd Brian Lara a Courtney Walsh (India’r Gorllewin), Wasim Akram (Pacistan) a Yuvraj Singh (India).

Gêm deg pelawd oedd hi, a thîm Ponting XI (104 am bump) yn curo tîm Gilchrist XI (103-5) o un rhediad.

Mae rhannau helaeth o Awstralia bellach yn wynebu llifogydd ar ôl misoedd o geisio diffodd tanau ar draws y wlad.