Mae’r gêm rygbi rhwng merched Iwerddon a Chymru yn mynd yn ei blaen yn Donnybrook er gwaetha’r tywydd.
Mae Cymru’n mynd am drydedd buddugoliaeth o’r bron dros y Gwyddelod, ond roedd disgwyl y gallai Storm Ciara daflu cysgod dros yr ornest.
Mae’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, a’r gic gyntaf am 1 o’r gloch.
Ond mae gêm yr Alban yn erbyn Lloegr wedi’i gohirio.
Bydd rhaid rheoli’r amodau yn Nulyn heddiw pic.twitter.com/nHjz7yfk7m
— Welsh Rugby Union 🏉 (@WelshRugbyUnion) February 9, 2020