Mae gwyddonwyr o Tsieina yn dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth sy’n awgrymu bod coronavirus wedi deillio o ystlumod.

Dywed dau bapur sydd wedi eu cyhoeddi bod dilyniannau genom nifer o gleifion yn Wuhan yn dangos bod y firws yn perthyn yn agos i’r firws sy’n achosi acute respiratory syndrome (Sars).

Mewn astudiaeth, mae Shi Zhen-Li a’i gydweithwyr yn Sefydliad Firoleg Wuhan yn dweud bod dilyniannau genom saith o gleifion 96% union yr un fath mewn ystlumod.

Y gred yw bod Sars hefyd wedi deillio o ystlumod, er ei fod wedi neidio i gathod cyn heintio pobl yn 2002-2003.

Er bod gwyddonwyr yn credu bod y firws diweddaraf wedi dechrau mewn marchnad bwyd môr yn Wuhan lle’r oedd anifeiliaid gwyllt ar werth ac mewn cysylltiad gyda phobol, dydy ffynhonnell yr anifail heb gael ei ddarganfod eto.

“I bob pwrpas, mae’n fersiwn o Sars sydd yn lledaenu’n haws ond yn achosi llai o niwed,” meddai Ian Jones, athro firoleg ym Mhrifysgol Reading.

“Mae’r firws yn defnyddio’r un derbynnydd, y drws i mewn i gelloedd dynol, sy’n egluro trosglwyddiad a pham ei fod yn achosi pneumonia.”