Mae Leo Varadkar a’i blaid Fine Gael dan bwysau yn etholiadau Iwerddon.

Mae lle i gredu ei bod hi’n agos iawn rhwng Sinn Fein a Fianna Fail, gyda’r polau piniwn yn awgrymu nad oes mwy na 3% ynddi, a bod Fine Gael yn drydydd.

Er gwaetha’r pwysau, mae’r Taoiseach – neu brif weinidog – yn mynnu na fydd ei blaid yn clymbleidio â Sinn Fein.
Yn ôl Leo Varadkar, fe fydd cynnal trafodaethau ynghylch Brexit yn anodd pe bai trafferthion wrth geisio ffurfio llywodraeth yn Iwerddon.Mae’n dweud bod Iwerddon “yn sicr ar ochr yr Undeb Ewropeaidd” ac yn “rhan o Dîm 27”.

“Dw i’n credu y bydd anhawster os cawn ni drafferth yn ffurfio llywodraeth yn Iwerddon,” meddai.

“Y rheswm pam fod yr etholiad yn digwydd nawr yw fy mod i wedi penderfynu mai nawr yw’r amser iawn, fod yna gyfle i gynnal etholiad yma yn Iwerddon.

“Byddai’n rhaid i ni gael un erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf beth bynnag.”

“Mae angen i ni gael llywodraeth sefydlog oherwydd mae hynny’n hanfodol ar gyfer ein dyfodol mewn cynifer o wahanol ffyrdd.”