Mae talaith Pennsylvania yn dathlu Groundhog Day heddiw (Chwefror 2), a’r darogan yw y daw’r gwanwyn yn gynnar eleni.

Fe ddaeth y diwrnod i sylw’r byd yn sgil y ffilm sy’n serennu Bill Murray ac Andie Macdowell.

Bob blwyddyn, mae’r twrlla (groundhog) Punxsutawney Phil yn ymddangos er mwyn darogan pryd fydd y gwanwyn yn dechrau.

Mae wedi bod yn darogan y dyddiad ers 134 o flynyddoedd, wrth i ddynion yn gwisgo hetiau crand ymgasglu i’w weld.

Man cychwyn y traddodiad oedd chwedl Almaenig sy’n dweud bod y gwanwyn ar ddod os yw creadur blewog yn taflu ei gysgod ar lawr, ond y bydd y gaeaf yn parhau os nad yw’n gwneud hynny.

Y ffilm

Yn y ffilm, mae’r dyn tywydd Phil Collins (Bill Murray) yn ail-fyw’r un diwrnod drosodd a throsodd fel cosb am y ffordd mae’n trin pobol ac yn ddirmygus o’r traddodiad yn Punxsutawney.

Mae’n awyddus i ddychwelyd i Pittsburgh ac yn recordio bwletin tywydd “ffwrdd-â-hi”, ar ôl iddo fe a’i griw, sy’n cynnwys Rita Hanson (Andie Mcdowell) gael eu dal mewn cwymp eira trwm.

Wrth orfod aros yn Punxsutawney, mae’n deffro am 7 o’r gloch bob bore i’r gân I Got You Babe yn chwarae ar y radio.

Mae’n cymryd mai breuddwyd yw’r cyfan ond wrth weld nad yw’n breuddwydio, fe ddaw i ddeall fod ganddo fe gyfle i wella un diwrnod ar y tro.