Mae’r Arlywydd Xi Jinping yn pwysleisio pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa, wrth i’r llywodraeth geisio cyfyngu symudiadau pobol yn ninas Wuhan lle dechreuodd y firws.
Daeth cadarnhad erbyn hyn fod swyddfa gonswlaeth Wuhan, sydd â chysylltiadau ag Abertawe, wedi symud ei staff a’u rhoi ar hediadau allan o’r ddinas.
Mae 15 o bobol wedi marw yn ystod y 24 awr diwethaf, gyda 688 o achosion newydd wedi’u cofnodi.
Mae 1,975 o achosion wedi’u cofnodi i gyd erbyn hyn, a rhai o’r achosion hynny yng Ngwlad Thai, Japan, De Corea, yr Unol Daleithiau, Fietnam, Singapôr, Malaysia, Nepal, Ffrainc, Canada ac Awstralia.
Wrth i bobol gael eu symud o Wuhan ar awyrennau, maen nhw’n dweud y bydd y flaenoriaeth yn mynd i’r achosion mwyaf difrifol os na fydd digon o seddau.
Mae awdurdodau Ffrainc hefyd yn paratoi i dynnu gweithwyr y diwydiant ceir allan o’r ddinas a’u dychwelyd i Ffrainc.
Mae pwysau hefyd ar gwmnïau teithio i atal symudiad niferoedd mawr o bobol am y tro.