Fe fydd mwg y tanau yn Awstralia wedi mynd o amgylch y Ddaear ac yn ól cyn pen dim, meddai asiantaeth ofod NASA.

Mae tanau efawr wedi bod yn llosgi ar hyd arfordir dwyrain Awstralia ers misoedd, gan wthio mwg ar hyd y Môr Tawel.

Dywed NASA fod y mwg wedi trafeilio “hanner ffordd rownd y Ddaear” erbyn Ionawr 8.

“Rydym yn disgwyl i’r mwg fynd o amgylch y Ddaear oleuaf unwaith.”

Mae cannoedd o danau wedi llosgi yn Awstralia, gan ladd 28 o bobol, dinistrio 2,000 o dai a lladd hanner biliwn o anifeiliaid.