Mae miloedd o dwristiaid wedi ffoi o ddwyrain Awstralia wrth i danau gwyllt ledu ymhellach.
Mae priffyrdd y wlad wedi bod yn llawn traffig wrth i bobol geisio ffoi o’r tanau, a bellach mae’r fyddin ynghlwm a’r gwaith o symud pobol o’u cartrefi.​
Ers dydd Mawrth (Rhagfyr 31) mae tymereddau wedi disgyn yn Awstralia, ac mae hynny wedi hwyluso pethau i’r rheiny sydd yn ceisio rheoli’r tanau.​
Ond mae disgwyl i bethau waethygu eto dros y penwythnos pan fydd gwyntoedd cryfion a thymereddau uchel yn dychwelyd.​
“Ar dydd Sadwrn, mae’n bosib y gall amodau fod yr un mor wael ag yr oedden nhw ar dydd Mawrth,” meddai’r Dirprwy Gomisiynydd Gwasanaeth Dan, Rob Rogers. “Ac mi allan nhw fod yn waeth.”
Tanau gwyllt
 
Ers i’r tanau ddechrau mae 381 o gartrefi yn New South Wales wedi cael eu dinistrio, ac mae 18 o bobol wedi marw.
Mae o leiaf wyth o bobol wedi marw’r wythnos hon yn nhaleithiau New South Wales a Victoria, lle mae yna dros 200 o danau gwyllt.