Mae o leiaf naw o bobol wedi marw wrth iddyn nhw ddathlu’r flwyddyn newydd yng nghanol llifogydd Indonesia.
Mae miloedd o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac mae prif faes awyr y wlad ynghau.
Mae o leiaf 90 o gymunedau’n dioddef o effeithiau’r llifogydd a arweiniodd at dirlithriad yn ninas Depok ger Jakarta.
Ymhlith y rhai fu farw roedd myfyriwr 16 oed a gafodd ei drydaneiddio.
Fe gyrhaeddodd lefel y dŵr 10 troedfedd mewn rhai ardaloedd.
Mae lle i gredu bod Jakarta wedi gweld tair gwaith yn fwy o law nag arfer ar nos Calan, gyda sawl afon yn gorlifo.
Mae rhybudd y gallai llifogydd daro’r wlad hyd at fis Ebrill, ac mae ymdrechion ar y gweill i geisio lleihau eu heffaith.