Mae o leiaf 60 o bobol wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad bom car ym mhrifddinas Somalia, Mogadishu.

Yn ôl heddlu’r wlad, roedd y ffrwydrad yn targedu canolfan gasglu trethi ar adeg prysur o’r dydd wrth i Somaliaid ddychwelyd i’r gwaith y bore yma ar ôl y penwythnos.

Mae ofnau y gall nifer y marwolaethau godi gan fod mwy na 90 o bobol a phlant wedi cael eu hanafu.

Er nad oes neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yma, mae’r mudiad al-Shabab, sy’n gysylltiedig ag Al-Qaida, yn aml yn cyflawni ymosodiadau o’r fath.