Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi canmol y rhai sy’n derbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd o Gymru. Wrth fynegi ei ddiolchgarwch, llongyfarchodd bawb a oedd yn derbyn y gwobrau.
“Bob blwyddyn mae’n ysbrydoliaeth darllen straeon unigolion gweithgar a gafodd eu henwebu am eu hymrwymiad i wella eu cymunedau,” meddai.
“Wrth i ni groesawu degawd newydd rydw i’n falch o weld Cymry o bob math o gefndiroedd yn cael eu cydnabod am eu rolau, gan gynnwys addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, neu ddarparu gofal eithriadol i bobl hŷn neu anabl.
“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad cyson i wasanaethu eu cymunedau a gwella bywydau pobl eraill Llongyfarchiadau i bawb a gafodd ei anrhydeddu heddiw.”
Llongyfarch gweithwyr iechyd
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan hefyd wedi llongyfarch gweithwyr gwasanaeth iechyd Cymru a’r sector Gofal Cymdeithasol sydd wedi cael eu hanrhydeddu.
Dywedodd Vaughan Gething: “Dw i’n falch bod pobl sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i wella iechyd a lles ledled cymunedau Cymru. Mae’r rhai sydd wedi cael eu hanrhydeddu’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau yn y Gwasanaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a hefyd y trydydd sector – sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig. Diolch yn fawr a llongyfarchiadau.”
Dywedodd Julie Morgan: “Mae’n hyfryd gweld pobl o bob rhan o’r Gwasanaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector yn cael anrhydeddau. Mae’r gydnabyddiaeth yn dyst i’w gwaith caled a’u hymrwymiad.”