Mae prif weinidog Awstralia wedi ymddiheuro am fynd ar ei wyliau yn ystod tanau mawr yn y wlad.
Mae Scott Morrison wedi cael ei feirniadu am fynd i Hawaii yn hytrach nag aros yn y wlad wrth i’r tanau ledu ar draws sawl talaith a dinistrio cartrefi.
Mae dau ddiffodwr tân hefyd wedi marw.
Fe ddychwelodd i’r wlad ar ôl iddo gael ei feirniadu am fod allan o’r wlad yn ystod yr argyfwng.
Mae’n dweud y byddai wedi gwneud “penderfyniad gwahanol” pe bai’n cael dewis eto.
“Dw i’n sicr fod Awstraliaid yn deg ac yn deall pan ydych chi’n gwneud addewid i’ch plant eich bod chi’n ceisio’i gadw,” meddai.
“Ond fel prif weinidog, mae gyda chi gyfrifoldebau eraill a dw i’n derbyn hynny ac yn derbyn y feirniadaeth.”
Newid hinsawdd
Mae Scott Morrison hefyd yn amddiffyn record ei lywodraeth ar newid hinsawdd, gan ddweud bod “ffactorau eraill” wedi cael effaith ar y tanau yn New South Wales, Victoria a De Awstralia.
Mae mwy na 100 o danau wedi cael eu gwaethygu gan y gwyntoedd cryfion ar draws New South Wales.
Mae dwsinau o gartrefi wedi cael eu colli ers dydd Iau (Rhagfyr 20).
Mae diffoddwyr o Ganada a’r Unol Daleithiau bellach yn cynorthwyo’r ymdrechion i ddiffodd y tanau.