Mae o leiaf 20 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad yn Guatemala, ac mae naw o blant yn eu plith.
Mae dwsin o bobol wedi’u hanafu yn dilyn y digwyddiad yn Gualan yn nwyrain y wlad pan darodd bws yn erbyn lori.
Mae lle i gredu bod y lori wedi taro cefn y bws cyn moelyd ar ffordd ddwy lôn.
Roedd y bws yn teithio o ranbarth Peten i brifddinas y wlad.
Mae nifer o bobol yn yr ysbyty.