Mae dyn 26 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad yn Aberaman ddydd Llun diwethaf (Rhagfyr 16).
Fe fu Luke Williams mewn cyflwr difrifol ers y digwyddiad, ac fe fu farw yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful nos Iau, meddai’r heddlu.
Mae’r teulu wedi cael gwybod ac yn dweud eu bod nhw’n “torri’u calonnau”, ac mae’r crwner hefyd wedi cael gwybod.
Mae Andrew John Davies, 52 oed o Aberaman, wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw bellach yn ymchwilio i achos o lofruddio, ac yn pwysleisio nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall.
Maen nhw’n apelio am wybodaeth.