Mae protestio’n digwydd ledled gwlad Pwyl, wrth i bobol ddangos eu gwrthwynebiad i ddeddf a allai roi’r grym i’r llywodraeth ddiswyddo barnwyr.

Mae’r gwrthdystwyr yn poeni y gallai’r gyfraith newydd, pe bai’n cael ei phasio, roi diwedd ar elfen o ddemocratiaeth y wlad, a’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng y byd gwleidyddol a’r byd cyfreithiol.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio y byddai’n rhoi gwlad Pwyl ar ymylon Undeb Ewop, ac y gallai arwain at ei hymadawiad o’r bloc o 28 o wledydd.

Mae protestwyr wedi bod ar y strydoedd yn siantio “Llysoedd rhydd” yn Warsaw, Katowice, Krakow, Wroclaw, Olsztyn, Bialystok a Poznan.