Fe fydd y Gymraeg i’w chlywed mewn cyngerdd arbennig yn Hwngari heno (nos Sul, Rhagfyr 15).
Mae cyngherddau sy’n dathlu diwylliant Hwngari a Chymru ochr yn ochr â’i gilydd yn gyffredin iawn yn y wlad.
Bydd y gyngerdd ddiweddaraf o’i math yn cael ei chynnal ym mhentref Kunágota yn ne’r wlad, lle bydd perfformwyr yn canu caneuon Nadoligaidd yn y ddwy iaith.
Mae oddeutu 2,500 o bobol yn byw yn y pentref ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gynnal cyngerdd Nadoligaidd yn dathlu’r ddau ddiwylliant.
Cafodd y gyngerdd ei threfnu gan Elizabeth Sillo, sy’n trefnu cyngherddau tebyg yng Nghaerdydd.
Ymhlith y perfformwyr heno mae Hajnalka Lehóczky, Tamás Egresi ac István Sipos.