Mae dyn o Fachynlleth wedi ennill gwobr am ei stribedi comics.
Mae David Llewelyn Lewis wedi ennill gwobr y ‘Mirror Award 2019’ gan sefydliad Pobl yn Gyntaf Cymru gyfan, sef grŵp eiriolaeth ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu.
Mae David Llywelyn Lewis wedi creu cyfres o stribedi comig yn cynnwys grŵp o arwyr o’r enw ‘The Titans of Righteousness’.
Mae’r arwyr hyn yn amddiffyn Cymru rhag y goruwchnaturiol yn ogystal â gwarchod ei thrigolion mewn ffyrdd eraill.
“Pan wnaethon nhw alw fy enw allan yn y seremoni wobrwyo, doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud â fy hunan. Roeddwn i’n methu credu’r peth, roeddwn i mor hapus,” meddai David Llywelyn.
Mae comics David yn ymdrin ag amryw o faterion gan gynnwys cam-drin, homoffobia a diogelwch ar-lein.
‘Darn gwych o waith’
Dywed Rheolwr Gwasanaethau Dydd Cynorthwyol Cyfle Newydd, Sean Delonnette: “Daeth David ataf un diwrnod a dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio ar stribed comig a gofyn a allai ddangos i mi,” meddai Sean Delonnette, rheolwr cynorthwyol Gwasanaethau Dydd Cyfle Newydd.
“Fe roddodd y darn gwych hwn o waith imi.
“Roedd ei un cyntaf ar God y Groes Werdd ac roeddwn i’n gwybod ar unwaith ei fod yn rhywbeth arbennig. ”