Mae Rwsia wedi cael eu gwahardd o’r byd chwaraeon am bedair blynedd yn sgil helynt cyffuriau.
Mae ymchwiliad wedi cael yr awdurdodau’n euog o ymyrryd â chanlyniadau profion mewn labordai.
Mae lle i gredu bod Asiantaeth Gwrth-Gyffuriau’r Byd (WADA) wedi cadarnhau’r gosb yn dilyn cyfarfod yn Lausanne.
Fe fu’r corff yn ystyried y gosb ar ôl clywed tystiolaeth gan bwyllgor annibynnol.
Mae’n golygu na fydd y wlad yn cael cystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf, Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing yn 2022 na Chwpan Pêl-droed y Byd yn Qatar yr un flwyddyn.
Fe fydd athletwyr o Rwsia yn cael cystadlu mewn digwyddiadau mawr ar yr amod nad ydyn nhw wedi bod yn gysylltiedig â phrofion cyffuriau positif ac os nad oes ymyrraeth wedi bod o ganlyniadau eu profion.