Mae perchennog y ceffyl Now McGinty yn gobeithio y gall ennill Grand National Cymru yng Nghas-gwent ar Ragfyr 27.

Mae Stuart Edmunds yn llygadu llwyddiant i’r ceffyl yn dilyn ei ras ddiwethaf yng Nghymru ar ddechrau’r flwyddyn.

Ac mae’n hyderus y gall e lwyddo er i’r ceffyl fagu tri phwys dros y mis diwethaf.

“Allwn i ddim bod yn hapusach gyda sut mae Now McGinty cyn rhedeg yn Grand National Cymru,” meddai.

“Dyma’r cynllun iddo fe ers iddo fe ennill y ras ‘novice chase’ yno fis Ionawr pan gurodd e De Rasher Counter.

“Aeth e i fyny dri phwys am orffen yn ail y tu ôl i Santini, ond dw i’n hapus i dderbyn hynny ac fe ddylai e gael pwysau da os yw Native River yn rhedeg.

“Mae ei berfformiadau’n edrych yn solet ac mae e’n hapus iawn gyda fe ei hun.”