Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y tîm wedi cyfrannu at eu tranc eu hunain yn West Brom ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 8).
Collodd yr Elyrch o 5-1, gan ddod â’u record ddiguro oddi cartref yn y Bencampwriaeth i ben.
Fe ddaethon nhw wyneb yn wyneb â thîm West Brom sy’n cynnal eu record ddiguro eu hunain yn yr Hawthorns.
Sgoriodd Semi Ajayi, Matheus Pereira, Hal Robson-Kanu, Matt Phillips a Kyle Edwards i’r Saeson, wrth i Sam Surridge rwydo unig gôl yr Elyrch.
Dyma golled fwya’r Elyrch ers i Manchester City eu trechu o 5-0 fis Ebrill y llynedd, a’u colled fwyaf yn West Brom ers 1929.
‘Naïfrwydd’
Ar ddiwedd y gêm, cyfaddefodd Steve Cooper fod ei dîm yn llawn “naïifrwydd”.
“Roedd yn brynhawn anodd ,ac mae’r sgôr yn dweud y cyfan, mewn gwirionedd,” meddai.
“Roedd yn ddiwrnod anodd, ac fe wnaethon ni gyfrannu at ein tranc ein hunain, a bod yn onest.
“Un peth yw cael eiliadau da wrth chwarae’n gyffredinol ond os ydych chi’n mynd i fod mor naïf ag yr oedden ni gyda’r goliau, rydych chi’n gofyn am drwbl.
“Mae hynny’n arbennig o wir wrth ddod yma o ran pa mor beryglus ydyn nhw a’r chwaraewyr sydd ganddyn nhw ym mlaen y cae.
“Fe wnaethon ni ddewis y diwrnod gwaethaf posib i daflu’r fath gyfleoedd i ffwrdd.
“Fe wnaeth y naïfrwydd yna gostio’n ddrud i ni.”
‘Cael eu haeddiant’
Ac mae’n dweud bod yr Elyrch “wedi cael eu haeddiant” wrth ildio pob un o’r goliau.
“O ran y gôl gyntaf, dylen ni fod wedi delio â’r bêl hir yn well cyn y gic gornel,” meddai.
“O ran yr ail gôl, roedden ni’n ddigon cyfforddus gyda’r meddiant i fyny’r cae.
“Daethon ni’n ôl i mewn i’r gêm wedyn, roedden ni ar y droed flaen ac fe ildion ni’r drydedd gôl yn y fath fodd wnaethon ni – o’n tafliad ein hunain mewn rhan gyfforddus o’r cae – ac mae hynny’n crisialu ein naïfrwydd.
“Yn anffodus, fe wnaeth hynny barhau gyda’r bedwaredd a’r bumed gôl.
“Fe gawson ni ein haeddiant.”